
Hyfforddwr Hyfforddi a Mentora (10 awr yr wythnos)
Role Overview & Responsibilities
1
Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rôl:
- Rhan Amser, 10 awr yr wythos & Parhaol
- £16.33 - £18.99 yr awr
- Abertawe, SA5 4HB
Cyfrifoldebau Allweddol:
- Hyfforddi ac asesu dysgwyr gan gyflwyno safonau uchel o broffesiynoldeb mewn perthynas â sectorau cyflogaeth amrywiol.
- Gweithio â chyflogwyr i nodi, cefnogi a gweithredu datrysiadau hyfforddiant i ddiwallu anghenion y sefydliad
- Cyflwyno profiad ddysgu di-dor sy’n datblygu unigolion ac yn hwyluso’r broses o wella sgiliau sy’n aml yn benodol i sector benodol, gan ymwneud â rhaglenni QCF NVQ, fframweithiau prentisiaeth, academaidd a phwrpasol.
- Gweithio fel rhan o dîm o hyfforddwyr, aseswyr a dilyswyr mewnol i gefnogi a hybu sicrwydd ansawdd ac ardderchowgrwydd, er mwyn bodloni gofynion y cyrff dyfarnu ac ESTYN.
Amdanoch chi:
- Cymhwyster lefel 5 mewn disgyblaeth arwain / rheoli
- Tystysgrif TAQA neu gymhwyster cyfwerth (neu yn barod i weithio tuag at)
- Hanes profedig o weithio mewn rôl arwain a rheoli.
Buddion:
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd (pro-rata), a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
- Parcio am ddim
- Cynllun gweithio Hybrid
- Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).
Share this Job Opening
Help colleagues and network connections discover this verified vacancy.
Interested in this role at Gower College Swansea?
Apply directly through the verified employer application pipeline.