
Hyfforddwr Bugeiliol
Role Overview & Responsibilities
Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rôl:
Mae cyfle cyffrous wedi codi i gefnogi dysgwyr mewn ffordd newydd.
Bydd y Cyfarwyddwr Ystadau yn gyfrifol am reoli pob agwedd ar weithgarwch ystadau a chyfleusterau’r Coleg, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch a Reprograffeg.
- Parhaol - Rhan-amser tan at 30 Mehefin 2023
- £22,658 - £24,665 per annum
Cyfrifoldebau Allweddol:
- Gweithio’n rhagweithiol gyda dysgwyr a staff y Coleg (tiwtoriaid a gwasanaethau cymorth) i wella presenoldeb, cadw a chyrhaeddiad a mynd i’r afael â materion ymddygiadol cyffredinol.
- Gweithio gydag Arweinydd CGA Egnïol, swyddogion Cymorth Myfyrwyr a phob gwasanaeth Cymorth er mwyn darparu cymorth ychwanegol yn ôl yr angen i gefnogi anghenion dysgwyr.
- Diweddaru’r tîm Rheoli Maes Dysgu yn rheolaidd ar gadw, cynnydd a lles dysgwyr drwy fynychu cyfarfodydd a llunio adroddiadau wythnosol.
Amdanoch chi:
- Profiad o weithio gyda phobl 14-19 oed mewn amgylchedd addysgol.
- Y gallu i ysgogi ac uniaethu â phobl ifanc
- Bod yn hyderus yn cyfathrebu’n glir ac yn effeithiol gyda gwahanol grwpiau o bobl
Buddion:
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
- Parcio am ddim
- Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
- Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).
Share this Job Opening
Help colleagues and network connections discover this verified vacancy.
Interested in this role at Gower College Swansea?
Apply directly through the verified employer application pipeline.