📍 Swansea, Wales • Posted 9h ago

Ddarlithydd/Darlithwyr (Banc) mewn TGAU Sgiliau Hanfodol Cymru

🇬🇧 United Kingdom💰 £16 - £31 /yr💼 College / University📂 Colleges & Universities
Offered Salary£16 - £31 /yr
Job TypeCollege / University
Location / Work ModeSwansea, Wales
Sector / CategoryColleges & Universities
💱 Estimated Compensation Breakdown Est. ≈ $29 USD/yr
Monthly Pay£2 / mo
Bi-Weekly Pay£1 / 2-wk
Hourly Rate£0.01 / hr
Sponsored LinkPromoted Career Matching

Role Overview & Responsibilities

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn chwilio am Ddarlithydd/Darlithwyr Banc mewn TGAU Saesneg a Mathemateg, Sgiliau Hanfodol Cymru (pob lefel), Llythrennedd Digidol, Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.

Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn chwilio am athrawon neu ddarlithwyr hyblyg a phrofiadol i gyflenwi a darparu gwersi ailsefyll TGAU a chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru ar Lefel 1 a 2.

  • Ni fydd gennych oriau gwaith penodol, a byddwch yn gweithio ar sail ad hoc
  • Cyflenwi ar gyfer absenoldeb salwch neu dros dro
  • Blwyddyn academaidd: Medi 2023 – Mehefin 2024
  • £15.61 - £30.71 yr awr (yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad)

Byddwch yn:

  • Athrawon, darlithwyr neu athrawon ysgol uwchradd wedi ymddeol cymwysedig a rhagorol, sy’n deall heriau amgylchedd addysgu
  • Gweithwyr proffesiynol sy’n gallu gweithio’n annibynnol ac mewn tîm i ddatblygu potensial dysgwyr, gan werthfawrogi eu bod yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd
  • Pobl gyfeillgar a chlên gyda disgwyliadau uchel o bob dysgwr
  • Gweithwyr proffesiynol sydd â phrofiad perthnasol diweddar o fentrau a manylebau newydd. Ar gyfer Llythrennedd Digidol er enghraifft, sgiliau i addysgu’r canlynol: llythrennedd gwybodaeth, cydweithredu digidol, creadigrwydd a sgiliau dysgu a defnydd moesegol o adnoddau digidol, olion traed digidol, amddiffyn eich hun ar-lein a seiberfwlio
  • Ymarferydd â sgiliau trefnu a chyfathrebu cryf sydd â dealltwriaeth o bwysigrwydd anghenion unigol dysgwyr
  • Rhywun sydd â’r hyder a’r creadigrwydd i rannu syniadau ar gyfer ennyn diddordeb dysgwyr a dylunio adnoddau digidol difyr i wella’r ddarpariaeth ymhellach
  • Gallu gweithio’n dda dan bwysau

Buddion:

  • 46 diwrnod o wyliau blynyddol / Cytundeb Cenedlaethol Hawl Gyliau Blynyddol (pro rata)
  • Mynediad i Raglen Cymorth Gweithwyr sy’n cynnig gwasanaeth cwnsela 24/7
  • Parcio am ddim
  • Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corff
  • Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Llawn Amser Cyfatebol Cyflog: £21,506 - £42,326 y flwyddyn yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.

Share this Job Opening

Help colleagues and network connections discover this verified vacancy.

Sponsored LinkPromoted Career Matching

Interested in this role at Gower College Swansea?

Apply directly through the verified employer application pipeline.

Similar Positions You May Like

Explore more roles matching your background in Colleges & Universities