📍 Cardiff, Wales • Posted 11h ago

Swyddog Lleoliadau Gwaith (12061)

🇬🇧 United Kingdom💰 £22,891 - £24,923 /yr💼 College / University📂 General
Offered Salary£22,891 - £24,923 /yr
Job TypeCollege / University
Location / Work ModeCardiff, Wales
Sector / CategoryGeneral
💱 Estimated Compensation Breakdown Est. ≈ $30,362 USD/yr
Monthly Pay£1,992 / mo
Bi-Weekly Pay£920 / 2-wk
Hourly Rate£11.49 / hr
Sponsored LinkPromoted Career Matching

Role Overview & Responsibilities

Swydd Wag Fewnol / Allanol


Cyf:
12061

Teitl y Swydd:Swyddog Lleoliadau Gwaith

Contract: Parhaol, Llawn Amser

Oriau: 37

Cyflog: £22,891 - £24,923


Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Swyddog Lleoliadau Gwaith o fewn adran Gyrfau Caerdydd a'r Fro. Bydd y swydd hon wedi’i lleoli ar wahanol leoliadau.


Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys:


  • Cysylltu â Phenaethiaid Adrannau a Thiwtoriaid Cwrs i ganfod cyfleoedd ac anghenion profiad gwaith y dysgwyr yn seiliedig ar y Rhaglenni Maes Dysgu (LAP) a threfnu amserlen profiad gwaith.
  • Sicrhau bod anghenion profiad gwaith dysgwyr yn cael eu cysylltu â’u dilyniant yn y dyfodol gyda lleoliadau gyda sefydliadau perthnasol.
  • Gweithio gydag asiantaethau eraill i sicrhau arfer gorau ar gyfer cyfleoedd profiad gwaith e.e. cwmnïoedd gyrfaoedd lleol, JCP, Ymddiriedolaeth y Tywysog a darparwyr eraill, a rhwydweithio er mwyn deall yr holl agendau cyflogadwyedd yn llawn.
  • Ymgysylltu â chyflogwyr i hyrwyddo CAVC a datblygu partneriaethau gwaith cynaliadwy sy’n cynhyrchu cyfleoedd profiad gwaith ystyrlon ar gyfer dysgwyr.
  • Sicrhau bod cytundeb ffurfiol yn bodoli rhwng y darparwr profiad gwaith a’r Coleg.
  • Monitro ac asesu addasrwydd lleoliadau gwaith a’u llwyddiant cyffredinol fel rhan o’r rhaglen profiad gwaith, gwneud addasiadau lle bo angen a rhoi adborth i Arweinydd y Tîm Gyrfaoedd mewn modd amserol.
  • Byddai sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.


Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.


Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw 06/06/2023 yr 12:00pm.


I gael gwybod mwy neu i wneud cais ewch i www.cavc.ac.uk neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol drwy ffonio 02920250311 neu anfonwch e-bost at recruitment@cavc.ac.uk.


Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.


Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.


Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun hyderus o ran anabledd.

Share this Job Opening

Help colleagues and network connections discover this verified vacancy.

Sponsored LinkPromoted Career Matching

Interested in this role at Cardiff and Vale College?

Apply directly through the verified employer application pipeline.

Similar Positions You May Like

Explore more roles matching your background in General